Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Gwener, 8 Hydref 2021
Amser:
09.30
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a:
Owain Roberts
Clerc y Pwyllgor
0300 200 6388
SeneddCyllid@senedd.cymru
------
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, mae’r Cadeirydd wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod hwn yn cael ei ddarlledu'n fyw ar www.senedd.tv
Rhag-gyfarfod preifat – anffurfiol (09.15-09.30)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
(9:30)
2 Papur(au) i’w nodi
(09:30) (Tudalennau 1 - 5)
Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Medi 2021
2.1 PTN 1 – Llythyr gan y Prif Weithredwr a'r Ysgrifennydd Parhaol, Cyllid a Thollau EM: Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol newydd Cyllid a Thollau EM ar gyfer Cyfraddau Treth Incwm Cymru – 24 Medi 2021
(Tudalennau 6 - 7)
2.2 PTN 2 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cyhoeddiad Llywodraeth y DU ynghylch cynyddu Yswiriant Gwladol – 27 Medi 2021
(Tudalen 8)
2.3 PTN 3 - Llythyr gan Gynullydd y Pwyllgor Cyllid a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, Senedd yr Alban: Cydweithio - 29 Medi 2021 (Saesneg yn unig)
(Tudalennau 9 - 10)
3 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23: Sesiwn dystiolaeth
(9:30 - 10:30) (Tudalennau 11 - 52)
Ken Skates AS, Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros y Gyllideb a Llywodraethu
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd
Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid
Papurau ategol:
FIN(6)-06-21 P1 – Cyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23
Papur briffio gan Ymchwil y Senedd
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
(10:30)
5 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23: Trafod y dystiolaeth
(10:30 - 10:45)